hafan fy nghyfrif

DVLA Personalised Registrations
  • mwy o ddewisiadau chwilio
    • chwilio am rifau cofrestru llythyren flaen
    • chwilio am y math presennol o rifau cofrestru
  • Arwerthiannau DVLA
  • oes gennych chi gwestiwn?
  • cael gwybod
  • amdanom ni

30,077,178 rhifau cofrestru sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu ar-lein

sut i chwilio - math presennol

1. Rhowch un llythyren ym mhob blwch gwag. Yn nau flwch cyntaf rhif cofrestru math presennol, chewch chi ddim defnyddio'r llythrennau I, Q na Z. Mae'r plât rhif ar yr ochr dde yn dangos pa lythrennau rydych chi wedi'u dewis. Os nad ydych chi'n dewis llythyren mewn blwch, fe'i dangosir ar y plât rhif fel 'UNRHYW' sy'n golygu y gellir rhoi unrhyw lythyren sydd ar gael yn y blwch hwn wrth chwilio.

2. Nesaf, dewiswch gyfuniad o rifau o'r gwymprestr yn rhan ganol y rhif cofrestru. Cliciwch y llygoden dros y blwch gwag ac fe welwch restr o'r cyfuniadau rhifau sydd ar gael. Cliciwch gyfuniad o rifau i'w dewis.

3. Nawr, dewiswch dair llythyren arall i lenwi'r blychau gwag sydd ar ôl i lunio'ch rhif cofrestru. Yn y rhan hon o rif cofrestru, chewch chi ddim dewis y llythrennau I na Q. Llenwch y blychau yn yr un ffordd â rhan gyntaf y rhif cofrestru.

4. Nesaf, dewiswch y swm rydych chi'n fodlon talu am eich rhif cofrestru drwy ddefnyddio'r ddwy gwymprestr sydd o dan y blychau nodi llythrennau. Os ydych chi'n dewis 'UNRHYW' neu'n ei adael yn wag byddwn yn chwilio am rifau cofrestru am unrhyw bris. Drwy glicio'r cwymprestrau, gallwch ddewis y pris isaf a'r mwyaf yr ydych yn barod i'w dalu a byddwn yn chwilio am bob rhif cofrestru o fewn y ddau swm hyn.

5. Pan fyddwch yn hapus gyda'r holl fanylion ar gyfer chwilio am rif (pa lythrennau i chwilio amdanynt ac ar ba bris), cliciwch y botwm 'ANFON' a byddwn yn chwilio am bopeth sy'n cyfateb i'ch dewis. Os oes gormod o ganlyniadau i ffitio ar un sgrin, cliciwch y botwm 'tudalen flaenorol' neu 'tudalen nesaf' ar waelod y sgrin i weld gweddill y rhifau cofrestru sy'n cyfateb. Mae yna fotwm ger pob rhif cofrestru sy'n ymddangos sy'n eich galluogi i weld y plât, anfon y manylion at ffrind, gweld manylion am sut i brynu'r rhif cofrestru a dewisiadau eraill.

English Version | direct.gov.uk | © Hawlfraint y Goron 2009 | telerau ac amodau'r wefan | E & OE | Polisi Preifatrwydd
gwefan gan Wyndham-Leigh Ltd